Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw HAHAV. Mae’n cynnig cymorth di-dâl i bobl ar draws Ceredigion sy’n byw gyda salwch nad oes modd ei wella neu sy’n cyfyngu ar eu bywydau.
Ein nod yw eich helpu i fyw eich bywyd yn llawn, gwneud y gorau o bob cyfle megis dysgu sgiliau newydd, hobïau neu gwrdd â phobl newydd a chefnogi teulu a ffrindiau gyda’u heriau yn awr ac i’r dyfodol.
Codwyr Arian cyfredol HAHAV
Dwy afon Aberystwyth

Bydd staff a myfyrwyr o bob cwr o’r Brifysgol yn cerdded hyd dwy afon Aberystwyth dros ddiwrnodau olynol ar 18-19 Gorffennaf 2025. Gan ddechrau a gorffen yn yr harbwr, yr her yw cerdded i fyny’r Afon Rheidiol i gronfa ddŵr Nant y Moch ac i lawr yr Afon Ystwyth trwy Ystâd Hafod.
Dominic Jenkins- Ultra Marathon

Helo Dominic ydw i. Ar 6/9/25 byddaf yn cymryd rhan yn fy marathon ultra cyntaf yr “Snowdonia Sea2sky” ultra 33 Milltir. Mae’r ras yn cychwyn ar traeth Abermaw ,cyn mynd i fyny i Ddolgellau,yna yn dringo i fyny a thros Cader Idris,cyn gorffen yn ôl ar draeth Abermaw.
Byddaf yn codi arian ar gyfer “HAHAV” Sef elusen leol anhygoel a arweinir gan wirfoddolwyr,sy’n darparu cymorth ymarferol ,cwmniaeth a chefnogaeth i unigolion â salwch cronig sy’n cyfyngu ar fywyd,yn ogystal â’u teuluoedd a’u hanwyliaid.
Rwy’n ymgymryd â’r her hon er cof am fy ewythr ,Stevan Southgate a fu farw 21 mlynedd yn ôl yn 43 mlwydd oed,ar ôl brwydr ddewr gyda chancer.
Yn ystod ei salwch cafodd Stevan gefnogaeth anhygoel gan elusen tebyg i HAHAV.Felly mae rhedeg am HAHAV er cof Stevan wir yn golygu llawer i mi gan wybod efallai gallaf eu helpu I gefnogi teuluoedd eraill yn eu hamseroedd caled.
Byddai unrhyw roddion tuag at yr elusen anhygoel hon yn cael eu werthfawrogi’n fawr.
Skydive’ Cymunedol Goginan

Un noson yn y Druid Inn, Gogian roedd nifer o drigolion lleol yn dweud sut y byddent wrth eu bodd yn gwneud ‘skydive’ a chodi arian ar gyfer elusennau. Trefnwyd cyfarfod a chytunwyd yn gyflym mai HAHAV Ceredigion fyddai’r elusen berffaith i godi arian ar ei chyfer. Bydd 13 o unigolion dewr yn mynychu Maes Awyr Abertawe ddydd Sul 14 o Fedi i gymryd rhan yn y digwyddiad gwych. Mae collled wedi effeithio ar lawer o’n ‘skydivers’ dewr dros y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw’n barod i daro’r awyr a rhoi rhywbeth yn ól i’r elusen wych yma!
Cefnogwch ni !