Canolfan HAHAV ym Mhlas Antaron, Southgate, Aberystwyth yw pencadlys newydd HAHAV a Chanolfan Byw’n Iach. Mae Plas Antaron, a fu gynt yn westy, yn cynnig cyfleusterau a gofodau amrywiol i ddatblygu gwasanaethau newydd a chyfleoedd i gleientiaid HAHAV gwrdd. Hefyd gall gefnogi gwasanaethau partneriaid fel Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda a ‘Credu’.
Yn ystod y cyfnod clo cafodd ein hystafelloedd eang eu defnyddio gan gwnselwyr therapi galar a chelf, Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda. Roedd hyn yn eu galluogi i barhau â’u gwasanaeth mewn amgylchedd cyfforddus a COVID-ddiogel. Mae Tîm Adsefydlu Ysgyfeintiol Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi defnyddio ein hystafell swyddogaeth a’n cyfleusterau fideo-gynadledda i gynnal rhaglen hyfforddi (gan ymbellhau’n gymdeithasol) ar gyfer rhai o’u cleifion sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Rydym wedi cefnogi nyrsys cymunedol Hywel Dda hefyd gyda digon o le storio cyfleus iddynt i weithio’n effeithlon a diogel trwy gydol y pandemig.
