Os ydych yn cael anhawster ymdopi ar ôl marwolaeth rhywun agos, gallwn ni eich helpu chi. Rydym yn cynnig cyfres o sesiynau un i un gan gynnig cymorth mewn galar gydag un o’n gwirfoddolwyr hyfforddedig yn y maes. Gallwch ddewis sut hoffech gwrdd â’ch gwirfoddolwr – naill ai wyneb yn wyneb, trwy alwad ffôn neu fideo. Mae’r cymorth hwn mewn profedigaeth ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg, pa bynnag iaith rydych yn fwy cyfforddus â hi.
Mae ein gwasanaeth cymorth mewn profedigaeth ar agor hefyd i unrhyw un sydd wedi’i effeithio â cholled oherwydd COVID-19.

Cefnogaeth Cyn-galar
Gall byw gyda diagnosis terfynol neu gefnogi rhywun sydd â’r cyflwr hwn deimlo fel colled hefyd. Efallai y byddech yn profi teimladau o ddicter, euogrwydd, ansicrwydd. Gall fod yn anodd rhannu’r teimladau hyn ac ymdopi’n fwy anodd byth oherwydd hynny. Weithiau, mae’n gallu bod yn dda siarad am ein teimladau, yn enwedig â rhywun y tu allan i’r teulu. Mae’r gwasanaeth a gynigiwn yn gyfrinachol, anfeirniadol ac yn ofod diogel i siarad yn rhydd ac yn rhwydd. Eto, gallwch ddewis sut hoffech gwrdd â’ch gwirfoddolwr.
Dod i gysylltiad
Os hoffech chi, aelod o’r teulu neu ofalwr ddefnyddio ein gwasanaethau, gallwch gyfeirio eich hunan trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu ofyn i’ch Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol i’ch cyfeirio chi atom ni. Neu, yn syml, rhowch alwad i ni ar 01970 611 550.