Gall delio â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd fod yn heriol iawn ac yn straen. Mae amser yn werthfawr ac rydym yn ymwybodol o hyn. Gall ein gwirfoddolwyr hyfforddedig leihau rhywfaint ar y pwysau hwn trwy ddod i’ch cartref a rhoi seibiant sydd wir ei angen i deuluoedd a gofalwyr. Er nad ydym yn darparu gofal personol na meddygol, gallwn gynnig cymorth ymarferol a’ch helpu i fynd am dro neu ar deithiau allan. Mae’r gwmnïaeth a gynigir gan ein gwirfoddolwyr yn gyfle i gael sgyrsiau o’r newydd, cael seibiant o’ch arferion cyfarwydd neu rannu hobïau neu ddiddordebau.
Gall ein gwirfoddolwyr helpu hefyd gyda thasgau fel siopa, eich gyrru i apwyntiadau neu ymweld â’ch hoff leoedd. Gallent hefyd eich helpu gyda thasgau ‘DIY’ syml a garddio pe bai angen. Ac os nad ydych yn teimlo’n rhy hwylus, gallant fynd â’ch ci am dro weithiau.
Rydym yn teilwra ein hymweliadau i ddiwallu anghenion ein cleientiaid, gydag asesiad llawn yn sicrhau bod yr help a gynigiwn yn ddiogel. Mae gennym wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg a Saesneg a gallant weithio gyda chi yn eich dewis iaith. Beth bynnag fo’ch cyfyngiadau, gallwn eich helpu i roi cynnig ar bethau newydd neu drefnu i chi gael newid o’ch patrwm dyddiol arferol. I lawer o bobl, mae ein gwirfoddolwyr yn dod yn ffrindiau newydd a dibynadwy.

Os byddai’n well gennych alwad ffôn neu fideo achlysurol i weld sut rydych yn dod ymlaen, byddem yn barod iawn i wneud hynny hefyd.
Dod i gysylltiad: Os hoffech chi, aelod o’r teulu neu ofalwr ddefnyddio ein gwasanaethau, gallwch gyfeirio eich hunan trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu ofyn i’ch Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol i’ch cyfeirio chi atom ni. Neu’n syml, rhowch alwad i ni ar 01970 611 550.