
Post blog gan Susie Scott
Mae gen i afiechyd nad oes gwella arno, dyna fi wedi’i ddweud. Flwyddyn yn ôl, roeddwn yn credu fy mod wedi cyrraedd y fan lle gallwn ymdopi â straen a helbulon bywyd, yna ces fy nharo gan hwn – canser yr ymennydd. Prognosis – terfynol. Yn y gwaith, gofynnwyd i mi drefnu cyfres o grwpiau trafod ar ysbrydolrwydd. Doedd hyn ddim yn apelio ataf, nid am nad oes gen i ffydd neu gredo neu’n chwilfrydig i ymuno mewn trafodaethau athronyddol am fywyd a marwolaeth, ond am fod ofn arna’ i. Yn y 12 mis diwethaf, ofn yw fy nghydymaith cyson. Mae’n fy stelcio, yn erydu fy ychydig eiliadau o hamdden a llawenydd. Rwy’n sgrechian a gweiddi arno. “Cer o ‘ma, paid cymylu’r hyn sydd ar ôl”.
Wedyn, ffeindiais fy hun yn eistedd i lawr mewn grŵp bach yng Nghanolfan Byw Bywyd Llawn HAHAV a gofynnwyd i mi siarad am fy rhestr o’m hoff ganeuon angladd. Fel arfer mewn caffi byddai rhywun yn gofyn pa laeth fyddwn eisiau gyda fy nghoffi – hanner sgim, soya neu gyflawn. Doeddwn i wir ddim eisiau yngan gair, ond dyma fi’n dechrau siarad gan feddwl am ganeuon a olygai rhywbeth i fi ac am ganeuon a fyddai, yn y fy marn i, yn golygu rhywbeth i fy nghymuned fach i. Os mai hwn fyddai fy mherfformiad olaf, yna sylweddolais fy mod i eisiau cyfrannu rhywfaint ato. Caneuon fel ‘Never Can say Goodbye’ Gloria Gaynor, ‘Saturday Night Fever’ llawr disgo dan y bocs, ‘Downtown’ Petula Clark, yr alaw thema wrth fynd i siopa gyda fy nith ac ‘I Want You’ Elvis Costello i gyfleu’r teimladau angerddol, aflwyddiannus a llwyddiannus yn fy mywyd, a gwasgaru’r llwch ar y môr – fy syrffio olaf oll. Roedd y cyfan yn teimlo’n rhyfedd, yn swreal ond eto i gyd yn gysur anesboniadwy wrth ddechrau siarad am fy nymuniadau olaf, i feddwl am eiriau, a’r etifeddiaeth a fyddaf i.
Dydw i ddim wedi newid y byd, dydw i ddim yn grwsadydd ond rwy’n gwybod fy mod wedi cael fy ngharu a dyna efallai yw’r rhodd fwyaf oll.
Dylai hyn i gyd deimlo’n drymlwythog, ond teimlais yn ysgafnach a dewrach gyda phob sylw a mewnwelediad roeddwn yn rhannu â’r grŵp. Roeddwn yng nghanol pobl ddieithr yn y caffi mwyaf caredig i mi wybod amdano o bosib, a’r ymdeimlad o garedigrwydd a dealltwriaeth yn ein clymu at ein gilydd. Swnio’n rhodresgar? Na, roedd hyn yn ddiffuant ac arbennig iawn. Felly, unrhyw un sydd allan yna, rwy’n eich annog i roi cynnig arni, p un ai ydych ar fin cyrraedd y dyddiad dod i ben, yn ofalwr neu ond yn rhywun sydd wedi bod yn myfyrio’n dawel am fywyd a’i ddiweddglo.
Bydd ein caffi nesaf ar 13 Rhagfyr, 11.30yb-1.00yp. A bydd, fe fydd coffi a chawl ar gael!