Gofal Lliniarol yng Ngheredigion

Cyflyrau iechyd ein cleientiaid

Gall gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol gyfeirio preswylwyr o Geredigion sydd â chanser neu glefyd arall datblygedig, cynyddol, cyfyngus ac anfaelan (non-malignant).  Gall cleifion ac aelodau’r teulu hefyd hunangyfeirio trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.  Rydym hefyd yn cynnig ein gwasanaeth cefnogi mewn profedigaeth i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid oherwydd COVID-19.

Yn gyffredinol, mae ein cleientiaid yn cael eu heffeithio gan un neu fwy o’r cyflyrau canlynol:  

  • Canser
  • Clefydau niwroddirywiol (e.e. clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol), dementia, clefyd Parkinson
  • Methiant y galon
  • Methiant yr arennau
  • Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)

‘D yw’r rhestr ddim yn gyflawn ac os y teimlwch y byddech yn elwa o’n gwasanaethau ac yn disgyn o fewn y meini prawf ‘ clefyd datblygedig, cynyddol, cyfyngus’, cofiwch gysylltu.  Bydd ein cydlynydd yn cysylltu â chi i drafod eich sefyllfa a ph’un ai yw HAHAV yn gallu eich helpu neu beidio.

HAHAV Site Logo