Loading digwyddiadau

« Pob digwyddiadau

  • Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Grŵp ‘Byw Bywyd Llawn` Macmillan

Recurring event see all

Medi 7, 2021 @ 10:30 12:30

Cymorth canser Macmillan

Croeso’n ôl i Fyw Bywyd Llawn!  

Dydd Mawrth, 7 Medi, 10.30 – 12.30yb, rydym yn estyn croeso’n ôl i Grŵp Byw Bywyd Llawn, Ceredigion.  Mae’r grŵp hwn yn cwrdd ar y dydd Mawrth cyntaf o’r mis ym Mhlas Antaron ac mae’n agored i gleifion, partneriaid a gofalwyr sydd wedi’u heffeithio gan ganser.  Yn ogystal â chymorth a chyngor, mae’r grŵp hefyd yn croesawu siaradwyr ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau.   

O gelf a chrefft i ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, dawns a symud, mae llawer o bethau i chi gymryd rhan ynddynt.  Mae hefyd yn gyfle i gael ychydig oriau o seibiant, cwrdd â phobl newydd a rhannu hanesion dros baned o goffi neu de.  

Ar 7 Medi, bydd y grŵp yn paentio crochenwaith gyda Sian Abbott.  

Os hoffech fwy o wybodaeth am Fyw Bywyd Llawn a rhaglen eleni, ffoniwch Susie ar 01970 611 550 neu  susie.scott@hahav.org.uk


HAHAV Site Logo