
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Tylino Oncoleg
Ebrill 5, 2022 @ 10:00 – 13:30

Therapydd: Amber Searle
Fel Therapydd Cyflenwol cymwysedig fy mhrif amcan yw cynnig dihangfa o fywyd bob dydd; lle i fy nghleientiaid ymarfer gorffwyso gan adael yn teimlo’n fwy ymlaciedig nag oeddent cyn eu triniaeth adferol ac adfywhau bwrpasol.
Rwy’n falch iawn o fedru cynnig sesiynau triniaeth Tylino Oncoleg Jennifer Young yn HAHAV.
Yn aml, un o fanteision uniongyrchol therapi cyffwrdd yw teimlad o ymlacio dwfn a thawelu. Mae hyn yn digwydd gan fod therapïau cyffwrdd yn gallu ysgogi rhyddhau endorffinau sy’n cynhyrchu teimladau o les cyffredinol.
Tylino Oncoleg yw therapi cyffwrdd ysgafn; weithiau cyfeirir ato fel
‘golchdrwytho (lotioning). Dim ond mewn mannau nad sy’n ymddangos fel gwrtharwydd lleol y defnyddir triniaeth cyffwrdd ysgafn, a bydd hyn yn cael ei drafod a’i gynllunio o gwmpas ac yn eich ymgynghoriad. Byddwn hefyd yn trafod materion yr hoffech i mi ganolbwyntio arnynt a’r pethau rydych eisiau i mi eu hosgoi; eich amser chi yw hwn.Fel Aromatherapydd cymwysedig gallaf hefyd gyfuno gwahanol olewau aromatherapi i weddu i’r driniaeth byddwch chi’n benodol ei hangen.