
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Adweitheg
Gorffennaf 13, 2022 @ 13:00 – 17:00

Mae HAHAV yn awr yn cynnig sesiynau adweitheg am ddim yn ein hystafelloedd therapïau cyflenwol. Rydym yn gwahodd cleientiaid ynghyd â gofalwyr i gysylltu â ni i weld os oes lle ar gael ac i drefnu apwyntiadau.
Mae adweitheg yn therapi cyflenwol anfewnwthiol a all fod yn effeithiol i hybu ymlacio dwfn a llesiant. Therapi cyffwrdd ydyw sy’n seiliedig ar y theori bod gwahanol bwyntiau ar y traed, y goes isaf, dwylo, wyneb a chlustiau yn cyfateb i wahanol fannau o’r corff.