
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Reiki
Mehefin 3, 2022 @ 10:00 – 13:00

Mae HAHAV yn awr yn cynnig sesiynau reiki am ddim yn ein hystafelloedd therapïau cyflenwol. Rydym yn gwahodd cleientiad ynghyd â gofalwyr i gysylltu â ni i weld os oes lle ar gael ac i drefnu apwyntiadau.
Math o therapi cyflenwol yw reiki. Mae ymarferwyr reiki yn gosod eu dwylo’n ysgafn ar eich corff neu’n agos ato. Mae’r gair Japaneaidd reiki yn golygu egni cyffredinol. Nod sesiynau Reiki yw eich helpu i ymlacio, lleihau straen a thensiwn a gwella’ch lles cyffredinol.