
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Canu am Hwyl gyda Iona
Chwefror 11, 2022 @ 11:00 – 12:30

Os ydych yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sydd â salwch tymor hir, mae HAHAV yn cynnig sesiynau Canu am Hwyl i ofalwyr gan ddechrau ar ddydd Gwener, 10 Medi, o 11-12.30yp. Byddwn yn dysgu amrywiaeth eang o ganeuon o bob rhan o’r byd mewn awyrgylch hwyliog ac ymlaciol. Does dim angen i chi gael unrhyw brofiad blaenorol o ganu na gallu darllen cerddoriaeth, dim ond awydd i ymuno a chymryd rhan. Byddwn yn cwrdd bob pythefnos, bob yn ail rhwng Canolfan Byw Bywyd Llawn HAHAV ym Mhlas Antaron ac ar Zoom. Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan Iona Sawtell, aelod o’r Natural Voice Network.
Os hoffech ymuno â’r sesiynau hyn, cysylltwch â Susie ar 01970 611 550 neu susie.scott@hahav.org.uk