
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
CANTORION YR EHEDYDD
Chwefror 28, 2022 @ 14:00 – 15:00

yn canu er lles yr ysgyfaint
Ydych chi’n dioddef o ddiffyg anadl oherwydd cyflwr ar yr ysgyfaint, Clefyd Parkinson, Sglerosis Ymledol, afiechyd y galon neu Covid Hir?
Ydych chi’n byw yng Ngogledd Ceredigion?
Mae grŵp canu newydd, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n dioddef cyflyrau ysgyfaint cronig, wedi cychwyn ar-lein a bydd yn dod i Blas Antaron ar yr 8fed o Dachwedd. Rydym yn gwneud ymarferion anadlu er mwyn cryfhau ein hysgyfaint, ac rydym yn canu caneuon syml gyda’n gilydd.
Mae ymchwil wedi dangos bod ymarferion anadlu a chanu yn gallu gwella cyflwr iechyd ysgyfaint a lleihau’r profiad o ddiffyg anadl yn ogystal â gwella ein llesiant yn gyffredinol.
Os oes diddordeb gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod i ymuno â’r grŵp hwn sy’n cyfarfod bob wythnos yng Nghanolfan Byw Bywyd Llawn, Plas Antaron, neu ar-lein trwy Zoom, cysylltwch ag arweinydd y grŵp trwy e-bostio Susie ar susie@ennals.org.uk neu ffoniwch HAHAV ar 01970 611 550. Bydd y grŵp yn cyfarfod ar ddydd Llun o 2 – 3 yp o’r 8fed o Dachwedd ac mae’n rhad ac am ddim.