
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Wiglo er Lles
Mawrth 25, 2022 @ 14:00 – 15:00

Wiglwch eich cluniau, siglwch eich ysgwyddau ac ewch adre gyda gwen.
Dewch i brofi’r pleser pur o ddawns a miwsig ym Mhlas Antaron y gwanwyn hwn! Bydd Megan West ein hathrawes dawns yn cynnal dosbarth symud a dawns gallu cymysg cynhwysol. Cyfle i chi fagu hyder a nerth, datblygu cydbwysedd, symudedd a chydsymud. Dyma gyfle hefyd i ddysgu rhai arddulliau dawnsio gwahanol. Gallwch eistedd neu sefyll yn y sesiynau ac mae modd eu haddasu ar gyfer eich holl anghenion, does dim angen profiad. Felly dewch i gael hwyl a sbri wrth ymarfer eich ‘Strictly’! Bydd y dosbarthiadau’n cychwyn ar ddydd Gwener, 18 Mawrth rhwng 2-3yp gyda lluniaeth ar gael wedyn. Am fwy o fanylion, ffoniwch Susie ar 01970 611 550 neu e-bostiwch: susie.scott@hahav.org.uk
Mae’r holl sesiynau’n rhad ac am ddim ac yn agored i ofalwyr a chleientiaid.