
- Mae’r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Ioga
Chwefror 21, 2022 @ 11:00 – 12:00

Anadlwch ac Ymlaciwch gyda’n sesiynau Ioga newydd yr Hydref hwn
Helpwch i wella eich osgo a’ch cydbwysedd wrth roi cynnig ar ein sesiynau ioga newydd gyda Louise Hurford. Bydd hi’n ymarfer ioga Hatha, dull hamddenol o Ioga sy’n canolbwyntio ar dechnegau symud rhydd, anadlu ac ymlacio.
Gallwch wneud yr ymarferion naill ai yn eich seddau neu ar y llawr. Bydd Louise yn teilwra’r sesiynau o gwmpas cyflymder a symudedd y sawl sy’n cymryd rhan. Gall Ioga, ym mhob ffurf, wella cwsg, lleihau straen yn ogystal â chryfhau ystwythder. Gall hefyd liniaru poen cefn a gwddf. Cofiwch wisgo dillad ysgafn, ond llac a chynnes.
Darperir lluniaeth ysgafn, yn ogystal â matiau a blancedi ioga. I archebu lle neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Susie ar 01970 611 550 (e-bost) susie.scott@hahav.org.uk Bydd pob sesiwn yn rhedeg ar ddyddiau Llun, o’r 8fed o Dachwedd, rhwng 11yb-12.00. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim, ac ar gael ar-lein trwy Zoom neu wyneb yn wyneb.