Wrth i’r cyfnod clo lacio, edrychwn ymlaen at gael mwy o weithgareddau codi arian. Diolch i gyllid hael gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) byddwn yn penodi swyddog codi arian proffesiynol yn fuan i sicrhau dyfodol cynaliadwy i HAHAV a datblygu ein cynlluniau am wasanaeth mwy eang ac amrywiol.


