Gofal Lliniarol yng Ngheredigion

Gofalwyr Ceredigion Carers

Ydych chi’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind? Os felly, rydych chi’n bwysig hefyd!

Boed yn golygu cefnogi oedolyn neu blentyn, rhywun gydag anabledd, salwch hirdymor, problemau iechyd meddwl neu sy’n camddefnyddio sylweddau.

Rydym yn cefnogi gofalwyr teuluol a di-dâl dros 18 oed yng Ngheredigion trwy:

  • gymorth 1:1  
  • grwpiau cymorth 
  • hyfforddiant penodol ar gyfer gofalwyr
  • help i ofalwyr gael mynediad at seibiannau byr a gofal amgen

Rydym yn gweithio gyda gofalwyr ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt, oherwydd mae pob gofalwr ac amgylchiadau pawb yn unigryw.  Gwnawn ein gorau i ddarparu’r cymorth yma ym mha bynnag ffordd sydd orau ichi, boed hynny wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn, ebost neu neges destun. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac mae ar gael am ddim.

I dderbyn cymorth, neu i ddysgu mwy, ffoniwch 03330 143 377 neu anfonwch ebost at: ceredigion@credu.cymru

Ceir hyd i ddolenni grwpiau a digwyddiadau yma: https://www.carers.cymru/ceredigioncarers 

Consortiwm yw Gofalwyr Ceredigion sy’n cynnwys Credu – Cysylltu Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru.

HAHAV Site Logo