
Yn dilyn llwyddiant ein gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod yr Haf, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein rhaglen Hydref sy’n cynnwys Te Prynhawn ym Mhlas Antaron – Caffi Dementia newydd wythnosol ar gyfer Aberystwyth, Grŵp Byw Bywyd Llawn Macmillan newydd i bobl sydd wedi’u heffeithio â chanser, gweithgaredd galw heibio newydd Celf sef Dyddiau Gwener Crefftus, ac ym mis Hydref byddwn yn lansio ein grŵp trafod Ysbrydolrwydd cyntaf. Mae mwy i ddod, felly cadwch lygad yn agored am fwy o gyhoeddiadau yn 2021, ac edrychwch ar ein Calendr Digwyddiadau.
Mae gennym hefyd ddiddordeb i glywed eich syniadau a’ch awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a grwpiau i’r dyfodol. Cysylltwch â Susie, ein Cydlynydd Gwasanaethau trwy e-bostio susie.scott@hahav.org.uk neu ffoniwch ni ar 01970 611 550