
Cafodd Amelia a Gwen gyfweliad ar Radio Aber fel rhan o’u harlwy Wythnos Gwirfoddolwyr 2021. Mae Amelia’n tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a wneir gan wirfoddolwyr HAHAV wrth iddynt gefnogi cleientiaid o un wythnos i’r llall. Mae Gwen yn egluro ein gwasanaeth newydd ar gyfer y rhai mewn profedigaeth, a’r pwysigrwydd o gynnig gwasanaethau dwyieithog i gleientiaid sy’n well ganddynt siarad Cymraeg.
Mae Radio Aber wedi postio recordiad o’r cyfweliad, a gallwch wrando arno trwy glicio yma.