Ers 6 mlynedd bellach, mae HAHAV wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid sy’n byw gyda salwch nad oes modd ei wella neu sy’n cyfyngu ar fywyd gan gynnig cwmnïaeth a chefnogaeth, help gyda’r siopa, gyrru, garddio a cherdded y ci. Gallwn fod yno i roi seibiant i’ch gofalwyr ofalu am eu hunain hefyd.
Wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, mae HAHAV wedi bod wrthi’n datblygu ein gwasanaethau ar-lein. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau caffi Zoom rheolaidd yn trafod ystod eang o bynciau lle gallwch ofyn i arbenigwyr am gyngor a gwybodaeth. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weithgareddau grŵp a gweithdai ar Zoom dan arweiniad therapyddion a hwyluswyr eraill, a cheir sesiynau ysgrifennu creadigol, therapi celf, dawns, symud a sesiynau ymlacio.
Mae HAHAV yn cynnig gwasanaeth profedigaeth newydd i gefnogi cleientiaid, gofalwyr a theuluoedd sy’n delio â galar ac yn paratoi i ffarwelio ag anwylyn.
Cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau’n llacio, fe fyddwn ni ym Mhlas Antaron yn lansio mwy o weithgareddau byw’n iach y tu mewn i’r adeilad gan gynnwys gofod i grwpiau cefnogi fedru cwrdd, cynnig gofal mewn profedigaeth a therapïau cyflenwol.
Mae mwyafrif cleientiaid HAHAV yn cael eu cyfeirio atom trwy eu Meddyg Teulu, Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Maent yn helpu i adnabod cleientiaid a allai elwa o gefnogaeth ychwanegol. Mae croeso mawr i chi gyfeirio eich hunan os teimlwch y gallwn eich helpu – defnyddio ein ffurflen ar-lein yw’r ffordd hawsaf i gael ymateb cyflym.Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, ewch i’r adran Cymorth ar eich cyfer


