Elusen gofrestredig yw HAHAV (Rhif Comisiwn Elusennau: 1160645) a chwmni cyfyngedig (Rhif Tŷ’r Cwmnïau: 09261439)
Mae HAHAV yn cael ei lywodraethu gan fwrdd o Gyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr, oll i gyd yn wirfoddolwyr di-dâl. Gyda’i gilydd maent yn gyfrifol am y llwybr strategol, rheoliadau, gonestrwydd ariannol a datblygu’r sefydliad i’r dyfodol.
Ein bwrdd ymddiriedolwyr
Dr Alan Axford
Enillodd Alan ei radd gyntaf yn Ysbyty Coleg Athrofaol Llundain cyn mynd ymlaem i ennill profiadau ôl-raddedig yn Birmingham a Llundain. Dychwelodd i Gymru i weithio yn Uned Niwmoconiosis y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Ysbyty Llandochau, Penarth. Yn 1975, ar ôl 5 mlynedd o ymchwil, cafodd ei benodi yn Feddyg Ymgynghorol ym maes meddygaeth resbiradol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Yno sefydlodd Adran Oncoleg Feddygol gan ddod yn glinigydd canser arweiniol i’r sir. Am 12 mlynedd cyn ymddeol , bu’n Gyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Bronglais a dyfarnwyd iddo’r OBE am ei wasanaeth i feddygaeth yng Nghymru yn 2006.
Richard John
Wedi ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, dychwelodd Richard i’r dre yn 1985 ar ôl astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Southampton ac yna ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghaint. Roedd Richard yn arbenigo mewn gwaith llys, sifil a throseddol, ac roedd hefyd yn aelod o banel Erlyn y Goron.
Ar ôl troi at waith llai dadleuol am gyfnod, penodwyd Richard yn farnwr rhan-amser gan yr Arglwydd Brif Ustus yn 2019, ac yn 2021 cafodd ei awdurdodi i wrando ar achosion teuluol. Mae Richard wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn sawl ysgol leol gan gynnwys bod yn Gadeirydd llywodraethwyr Penglais a bu hefyd yn aelod o Gyngor y Brifysgol am 6 mlynedd.
Gwerfyl Pierce Jones
Brodor o Gaergybi, Ynys Môn, yw Gwerfyl Pierce Jones ond mae wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers blynyddoedd lawer. Ar ôl graddio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Bu’n gweithio mewn nifer o swyddi ym myd y celfyddydau a bu’n gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru hyd ei hymddeoliad yn 2009. Bu’n Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2012–19 gan wasanaethu hefyd fel Dirprwy Gadeirydd Cyngor y Brifysgol. Mae hefyd yn ymwneud â nifer o elusennau ac ymddiriedolaethau ac mae’n gadeirydd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Peter Skitt
Ymunodd Peter â’r GIG yn 1981 ac mae ganddo 40 mlynedd o brofiad o amrywiol swyddi clinigol ac anghlinigol a rolau uwch-reoli. Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwydd a Chomisiynydd Sirol Ceredigion (Bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda) a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer ardal Cydbwyllgor Canolbarth Cymru. Roedd gyrfa Peter yn golygu rheoli Gofal Critigol a Theatrau, Rheoli Cyffredinol ym maes Llawfeddygaeth. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Rheoli Siartredig ac yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac yn frwd dros hyfforddi ac arwain, ac yntau’n hyfforddwr gweithredol cymwysedig. Mae Peter yn credu’n gryf mewn gwydnwch cymunedol ac yn un sy’n ymgyrchu i rymuso pobl leol a rhoi llais iddynt.
Mark Williams
Roedd Mark yn Aelod Seneddol Ceredigion am 12 mlynedd tan 2017 ac mae’n dal yn weithgar gyda sawl sefydliad cymunedol ledled y wlad. Yn athro wrth ei broffesiwn, mae Mark erbyn hyn yn Bennaeth Ysgol ym Mhowys. Mae’n byw yn Y Borth gyda’i wraig Helen a’u plant. Tra roedd yn y Senedd, byddai Mark yn aml yn tynnu sylw at waith gofalwyr a’r her o’u cefnogi hwy a’u teuluoedd, yn enwedig y rhai mewn cymunedau gwledig gwasgaredig. Mae Mark yn credu bod HAHAV yn diwallu angen pwysig a chynyddol ar draws Ceredigion, ac mae’n ymateb yn ei ffordd ddihafal ei hun i gleientiaid lleol a’u gofalwyr.