Mae Tîm Gofal Lliniarol Ceredigion wedi’i leoli yn Nhŷ Geraint, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Mae’r tîm yn cynnwys meddyg arbenigol, nyrsys cymunedol, therapyddion adsefydlu a fferyllwyr. Maent yn helpu cleifion a’u teuluoedd i ymdopi â’u symptomau a sgîl-effeithiau triniaethau, dioddefaint seicolegol neu faterion cymhleth diwedd oes. Maent hefyd yn paratoi cyngor arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Mae’r Tîm hwn yn cydweithio’n agos â Meddygon Teulu a thimau nyrsys cymunedol ledled Ceredigion i ddarparu gofal pedair awr ar hugain. Cynhelir clinigau cleifion allanol yn rheolaidd ond yn y cartref y darperir y gofal gan mwyaf.
Yn dilyn cyfeirio, mae’r tîm yn asesu a rhoi sylw i unrhyw symptomau sydd heb eu datrys gan gynnwys rheoli poen a dioddefaint seicolegol. Maent yn cydweithio â darparwyr gofal iechyd eraill gan gynnwys Hosbis Hafren a sefydliadau gwirfoddol fel HAHAV.
Bydd y Tîm Gofal Lliniarol yn cynghori a chefnogi’r broses o gynllunio gofal datblygedig; yn sicrhau bod dymuniadau cleifion a’u dewis o ofal yn cael eu clywed a’u cefnogi’n briodol. Hefyd, mae’r tîm yn cynnig cwnsela mewn profedigaeth a therapi celf. Mae’r gefnogaeth hon yn cael ei chynnig i bawb yn unigol neu mewn grwpiau bach anffurfiol.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 01970 635 790.
https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/gofal-lliniarol/