Gall Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser Macmillan, a leolir yn ysbyty Bronglais Aberystwyth, sgwrsio â chi am eich cwestiynau’n ymwneud â chanser yn ogystal â’ch helpu gydag unrhyw bryder neu gyngor y gallech fod ei angen ynglŷn â chadw eich hun yn ddiogel yn y cyfnod heriol hwn. Yn ogystal â chynnig clust hollbwysig i wrando, mae’r tîm yn darparu gwybodaeth, a gall eich cyfeirio at wasanaethau eraill megis Cyngor Budd-daliadau Lles Macmillan neu gysylltu pobl â chefnogaeth yn y gymuned leol.
Ffôn: 01970 613 888
e-bost: MacmillanCISSCeredigion.HDD@wales.nhs.uk