Newyddion

Susie Scott

Post blog gan Susie Scott

Mae gen i afiechyd nad oes gwella arno, dyna fi wedi’i ddweud.  Flwyddyn yn ôl, roeddwn yn credu fy mod wedi cyrraedd y fan lle gallwn ymdopi â straen a helbulon bywyd, yna ces fy nharo gan hwn  – canser yr ymennydd.  Prognosis – terfynol.  Yn y gwaith, gofynnwyd i mi drefnu cyfres o grwpiau trafod ar ysbrydolrwydd.  Doedd hyn ddim yn apelio ataf, nid am nad oes gen i ffydd neu gredo neu’n chwilfrydig i ymuno mewn trafodaethau athronyddol am fywyd a marwolaeth, ond am fod ofn arna’ i.   Yn y 12 mis diwethaf, ofn yw fy nghydymaith cyson.    Mae’n fy stelcio, yn erydu fy ychydig eiliadau o hamdden a llawenydd.  Rwy’n sgrechian a gweiddi arno.  “Cer o ‘ma, paid cymylu’r hyn sydd ar ôl”.

Wedyn, ffeindiais fy hun yn eistedd i lawr mewn grŵp bach yng Nghanolfan Byw Bywyd Llawn HAHAV a gofynnwyd i mi siarad am fy rhestr o’m hoff ganeuon angladd.  Fel arfer mewn caffi byddai rhywun yn gofyn pa laeth fyddwn eisiau gyda fy nghoffi – hanner sgim, soya neu gyflawn.  Doeddwn i wir ddim eisiau yngan gair, ond dyma fi’n dechrau siarad gan feddwl am ganeuon a olygai rhywbeth i fi ac am ganeuon a fyddai, yn y fy marn i, yn golygu rhywbeth i fy nghymuned fach i.  Os mai hwn fyddai fy mherfformiad olaf, yna sylweddolais fy mod i eisiau cyfrannu rhywfaint ato.  Caneuon  fel ‘Never Can say Goodbye’ Gloria Gaynor, ‘Saturday Night Fever’ llawr disgo dan y bocs, ‘Downtown’ Petula Clark, yr alaw thema wrth fynd i siopa gyda fy nith ac ‘I Want You’ Elvis Costello i gyfleu’r teimladau angerddol, aflwyddiannus a llwyddiannus yn fy mywyd, a gwasgaru’r llwch ar y môr – fy syrffio olaf oll.  Roedd y cyfan yn teimlo’n rhyfedd, yn swreal ond eto i gyd yn gysur anesboniadwy wrth ddechrau siarad am fy nymuniadau olaf, i feddwl am eiriau, a’r etifeddiaeth a fyddaf i.

Dydw i ddim wedi newid y byd, dydw i ddim yn grwsadydd ond rwy’n gwybod fy mod wedi cael fy ngharu a dyna efallai yw’r rhodd fwyaf oll. 

Dylai hyn i gyd deimlo’n drymlwythog, ond teimlais yn ysgafnach a dewrach gyda phob sylw a mewnwelediad roeddwn yn rhannu â’r grŵp.  Roeddwn yng nghanol pobl ddieithr yn y caffi mwyaf caredig i mi wybod amdano o bosib, a’r ymdeimlad o garedigrwydd a dealltwriaeth yn ein clymu at ein gilydd.  Swnio’n rhodresgar?  Na, roedd hyn yn ddiffuant ac arbennig iawn.  Felly, unrhyw un sydd allan yna, rwy’n eich annog i roi cynnig arni, p un ai ydych ar fin cyrraedd y dyddiad dod i ben, yn ofalwr neu ond yn rhywun sydd wedi bod yn myfyrio’n dawel am fywyd a’i ddiweddglo. 

Bydd ein caffi nesaf ar 13 Rhagfyr, 11.30yb-1.00yp.  A bydd, fe fydd coffi a chawl ar gael!

Y mis hwn, fe gwrddodd Grŵp Byw Bywyd Llawn Aberystwyth am y tro cyntaf ers y cyfnod clo.  Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un yng Ngheredigion sydd â chanser ac estynnwyd croeso i wirfoddolwyr trefnu newydd, sef June Parry a Gael Hewitt.  Mae June a Gael wrthi’n brysur yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau a siaradwyr ar gyfer y 12 mis nesaf.    

The first meeting back saw members ‘paint a hug’ as Sian Abbott, a potter from New Quay came in with some hug Yn y cyfarfod cyntaf hwn gwelwyd aelodau’n ‘peintio cwtsh’  wrth i Sian Abbott, crochenydd o Gei Newydd gyrraedd gyda mygiau cwtsh a gwlad i bawb gael eu haddurno.  Ym marn Sian roedd pob un o’r dyluniadau’n broffesiynol iawn a phan fyddan nhw wedi’u gwydro, bydd y grŵp yn eu defnyddio i yfed eu coffi yn y cyfarfod nesaf, sy’n digwydd ar Ddydd Mawrth, 5 Hydref rhwng 10.30-12.30. 

Am fwy o wybodaeth am y grŵp Byw Bywyd Llawn cysylltwch â Susie ar: 01970 611 550 neu e-bostiwch  susie.scott@hahav.org.uk

Mugs 1
Mugs 2
Mugs 3
rhaglen Hydref

Yn dilyn llwyddiant ein gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod yr Haf, rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein rhaglen Hydref sy’n cynnwys Te Prynhawn ym Mhlas Antaron – Caffi Dementia newydd wythnosol ar gyfer Aberystwyth,  Grŵp Byw Bywyd Llawn Macmillan newydd i bobl sydd wedi’u heffeithio â chanser, gweithgaredd galw heibio newydd Celf sef Dyddiau Gwener Crefftus, ac ym mis Hydref byddwn yn lansio ein grŵp trafod Ysbrydolrwydd cyntaf.  Mae mwy i ddod, felly cadwch lygad yn agored am fwy o gyhoeddiadau yn 2021, ac edrychwch ar ein Calendr Digwyddiadau.  

Mae gennym hefyd ddiddordeb i glywed eich syniadau a’ch awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau a grwpiau i’r dyfodol.  Cysylltwch â Susie, ein Cydlynydd Gwasanaethau trwy e-bostio susie.scott@hahav.org.uk neu ffoniwch ni ar 01970 611 550

Radio Aber logo

Cafodd Amelia a Gwen gyfweliad ar Radio Aber fel rhan o’u harlwy Wythnos Gwirfoddolwyr 2021.  Mae Amelia’n tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a wneir gan wirfoddolwyr HAHAV wrth iddynt gefnogi cleientiaid o un wythnos i’r llall.   Mae Gwen yn egluro ein gwasanaeth newydd ar gyfer y rhai mewn profedigaeth, a’r pwysigrwydd o gynnig gwasanaethau dwyieithog i gleientiaid sy’n well ganddynt siarad Cymraeg.

Mae Radio Aber wedi postio recordiad o’r cyfweliad, a gallwch wrando arno trwy glicio yma.   

Diolch i gyllid hael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym wedi creu ein gwefan newydd a sianel YouTube,  er mwyn  egluro beth rydym yn ei wneud a lle rydym yn sefyll o fewn yr ystod gwasanaethau gofal lliniarol sydd ar gael yng Ngheredigion. Mae cael mynediad i’n gwasanaethau yn haws nag erioed yn awr, trwy ffurflenni syml ar-lein i gleientiaid, ac i weithwyr gofal iechyd proffesiynol  i’ch cyfeirio.  Neu gallwch ein ffonio ar 01970 611 550.

Yn ein Calendr Digwyddiadau, gallwch weld amserlen ein gweithgareddau sy’n cynnwys digwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb, gweithdai a gweithgareddau grŵp.  Ym mis Mai a Mehefin byddwn yn cynnal Gweithdy Ysgrifennu Creadigolgyda Jaqueline Yallop a 6 sesiwn Therapi Symud  gyda Matilda Tonkin Wells, Artist Dawns a Seicotherapydd Symud.  Gallwch archebu ar ein tudalen ‘Beth Sydd ‘Mlaen!’

Yn ddiweddar, buom yn siarad â dau o’n gwirfoddolwyr rhagorol, Dai a Sue gan ofyn iddynt pa fath o waith roeddent yn ei wneud yn ein gwasanaeth Cwmnïaeth a Chymorth.  Buom yn ffilmio’r fideos yng ngardd Plas Antaron dros ddau ddiwrnod gwahanol, felly roedd yr haul yn gwenu ar Dai, ond nid felly ar Sue yn anffodus!  Maent yn nodi cymaint o foddhad y mae’r gwaith yn ei roi ddiynt a chymaint yw gwerthfawrogiad y cleientiaid o’r gwasanaeth;  hefyd y rhwystredigaethau a’u hwynebodd wrth weithio yn ystod cyfyngiadau COVID-19.  Dyma nhw yma: 

WCVA logo

Dyfarnwyd £54,7000 i HAHAV gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)  Mae’r cyllid hwn yn rhan o Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector,  Llywodraeth Cymru yn sgîl pandemig COVID.  Bydd dau aelod o staff amser llawn yn cynorthwyo i sefydlu Canolfan Byw’n Iach HAHAV ym Mhlas Antaron, Penparcau.     

Bydd Rheolwr Cyfleusterau yn cydlynu gweithgareddau yn y ganolfan a’r swyddog Codi Arian yn anelu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r elusen ac yn helpu i ddatblygu ei chynlluniau.

 

Dywedodd Dr Axford “Daeth y newyddion gwych hyn ar amser allweddol wrth ein bod yn dod allan yn raddol a gobeithiol o gyfyngiadau COVID.  Mae galw aruthrol am wasanaethau cefnogi gan ein gwirfoddolwyr, ynghyd â seibiant dydd i gleifion a gofalwyr. Heb os, bydd ôl-groniad o achosion i ddod.  Mae ein cynlluniau ar gyfer Plas Antaron wedi’u heffeithio’n ddirfawr gan y cyfnod clo ac mae ein prif incwm o siop HAHAV wedi gostwng yn ddifrifol eleni.  Felly rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ariannol y WCVA  i helpu i gyflymu agoriad ein canolfan newydd gyffrous yn nes ymlaen eleni.”

Yn ddiweddar, darparodd Tîm Adsefydlu Ysgyfeintiol Glangwili wasanaeth chwe wythnos i gleifion gan ddefnyddio ystafell swyddogaeth eang HAHAV ym Mhlas Antaron.  Roeddent wedi’u cysylltu o bell ag ail grŵp trwy Microsoft Teams a chyfleusterau fideo-gynadledda HAHAV.  Mae’r gwasanaeth rhyfeddol ac arloesol hwn wedi profi’n fuddiol iawn i gleifion.  Dyma nhw’n brysur yma: 

HAHAV Site Logo