Ymddiriedolaeth Cinnamon
Ymddiriedolaeth Cinnamon yw’r unig elusen genedlaethol arbenigol sy’n helpu pobl oedrannus a therfynol wael i ofalu am eu hanifeiliaid anwes. Pennaf nod yr Ymddiriedolaeth yw parchu a chynnal y berthynas werthfawr rhwng perchnogion a’u hanifeiliaid anwes. Mae’n cydweithio â’r perchnogion i ddelio ag anawsterau posibl.
Mae rhwydwaith cenedlaethol o fwy na 17,000 o wirfoddolwyr gwasanaeth cymunedol wedi’i sefydlu i ddarparu cymorth ymarferol e.e. cerdded y ci i berchennog sy’n gaeth i’w gartref, Cynigir gwasanaeth maethu cenedlaethol hefyd pan fo’r perchnogion yn wynebu cyfnod mewn ysbyty. Mae’r Ymddiriedolaeth yn darparu gofal tymor hir i’r anifeiliaid anwes pan fo’r perchnogion wedi marw neu wedi symud i lety preswyl na fyddai’n caniatáu anifeiliaid anwes.
Ffôn: 01736 757 900
Ffurflen ar-lein: https://cinnamon.org.uk/contact-us/
Versus Arthritis
Mae gan Versus Arthritis Gydlynydd Gwasanaethau Ceredigion sy’n gweithio gyda phobl ag Arthritis a chyflyrau MSK eraill gan gynnwys lwpws, ffibromyalgia, gowt, syndrom gorsymudedd a llawer mwy, a hefyd gyda phobl sy’n gofalu am bobl ag arthritis, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill yn y gymuned. Maent yn cynnig cefnogaeth ar y ffôn gan rannu gwybodaeth eang am fyw’n iach gydag arthritis, cyfeirio at wasanaethau perthnasol eraill a helpu i sicrhau mynediad i’r cyfarfodydd ar-lein.
Mae grwpiau cefnogi a gweithgareddau gan Versus Arthritis sy’n darparu gwybodaeth a chymorth ar reoli poen, hunanreoli, gweithgarwch corfforol, a’r broses gwneud penderfyniadau ar y cyd. Maent hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd gwirfoddoli gan roi pŵer i bobl sydd ag arthritis i wella a chymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles.
Am fwy o wybodaeth ar y gefnogaeth y mae Versus Arthritis yn ei chynnig, cysylltwch â:
Heather Lake Cydlynydd Gwasanaethau
e-bost: h.lake@versusarthritis.org
Ffôn: 01570 642 508
Ffôn symudol: 07484 904 201
Gwefan: https://www.versusarthritis.org/