Amdanom Ni

Ein hanes a’n gweledigaeth

Elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr yw HAHAV.  Fe’i sefydlwyd yn 2015 i gynnig help ymarferol, gofal cymdeithasol a chwmnïaeth i bobl Ceredigion sydd â salwch cronig cyfyngus.   Rhown gefnogaeth hefyd i deuluoedd a gofalwyr yn ogystal â’r cleifion sy’n annwyl iddynt.  Mae ein gwasanaethau’n ategu a chydredeg â gwaith Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda sy’n bartner cryf a pharhaus i ni.

Choir in the National Library

Mae gennym siop elusen brysur yn Heol y Wig, Aberystwyth a dyma ein prif ffynhonnell cyllid ochr yn ochr â rhoddion a gweithgareddau codi arian eraill.  Ers sefydlu siop HAHAV yng Ngorffennaf 2015, mae 40 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu mwy na 18,000 awr yn didoli, prisio a gwerthu nwyddau a roddwyd.

Prif weithgaredd HAHAV cyn pandemig COVID-19 oedd  canolbwyntio ar gefnogaeth un i un yng nghartrefi  cleientiaid.  Mae ein gwasanaethau ‘eistedd’ gyda chleifion gartref yn cynnwys cwmnïaeth, siopa, gyrru, garddio, cerdded y ci a seibiant i ofalwyr.  Mae ein gwirfoddolwyr gwych wedi gweithio mwy na 45,000 awr, a hyd yma mae HAHAV wedi helpu dros 275 o achosion yn y cartref.

Tua diwedd 2019, symudodd yr elusen i bencadlys newydd ym Mhlas Antaron (Penparcau, Aberystwyth) a oedd gynt yn westy.  Bwriad HAHAV yw cynnal gwasanaethau dydd, therapïau, gweithgareddau a digwyddiadau o’r ganolfan hon, pan ddaw llacio wedi COVID-19. Yn ystod y cyfnod ansefydlog hwn, gwelodd HAHAV angen ac awydd i ddatblygu ein darpariaeth ar-lein, er mwyn cyrraedd cleientiaid yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau cymdeithasol, i gysylltu â’r rhai sy’n ynysig am ba reswm bynnag ac i wynebu heriau daearyddol ardal eang a phoblogaeth wasgaredig Ceredigion.  Rydym eisiau cynnig sawl ffordd i bobl gysylltu, cymryd rhan a derbyn cymorth trwy bresenoldeb amrywiol ar-lein.  Diolch i gefnogaeth hael Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd ein gwasanaethau newydd ar-lein yn addasu i gefnogi nwy o weithgareddau wyneb yn wyneb wrth i economi Cymru ailagor yn 2021.

HAHAV Site Logo