Mae Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda yn cydweithio â gwasanaeth allgymorth Hosbis Severn. Mae eu gwasanaeth Hosbis yn y Cartref yn cefnogi cleifion sydd fel arfer yng nghyfnod 6 wythnos olaf eu bywyd. Mae tîm o gynorthwywyr gofal iechyd arbenigol yn darparu cymorth yn ystod y nos ar hyd yr wythnos a phenwythnosau, weithiau ceir cefnogaeth yn ystod y dydd. Mae’r tîm allgymorth yn cydweithio’n agos â Meddygon Teulu lleol, nyrsys ardal a thimau ymateb aciwt i sicrhau bod y cleifion yn gyfforddus a’r teuluoedd yn cael yr help sydd ei angen.
I gael y gwasanaeth hwn, rhaid bod cleifion wedi’u cyfeirio gan Feddyg Teulu, meddyg arbenigol neu Nyrs Ardal. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Menna Manley: 01970 635 790 neu e-bostiwch hathceredigion@severnhospice.org.uk