Sylwch mai ond ar gyfer sefydliadau di-elw neu drydydd sector yn unig y gallwn logi ein llefydd gwag.
Gall Plas Antaron fod yn fan cyfarfod delfrydol ar gyfer digwyddiad nesaf eich mudiad. Mae’r gofodau y gellir eu harchebu yn addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, hyfforddi a gweithio mewn tîm. Ceir wifi cyflym drwy’r adeilad ac mae gennym ddwy weithfan fideo-gymhadledda sgrîn fawr y gellir hefyd eu defnyddio i ddangos cyflwyniadau, sioeau sleidiau neu sesiynau Zoom a Teams.
Gan ein bod yn cynnal ein digwyddiadau a’n gwasanaethau ein hunain o Blas Antaron, cysylltwch â ni’n gynnar er mwyn gweld beth sydd ar gael. Bydd yr holl incwm a gynhyrchir yn ein helpu i barhau i gynnig ein gwasanaethau i’r bobl sydd eu hangen.
Cyfraddau llogi ystafell
Hanner Diwrnod | Diwrnod Cyfan | |
Ystafell Gwnsela | £15 | £30 |
Ystafell Therapi Celf | £15 | £30 |
Lolfa | £20 | £40 |
Caffi | £40 | £80 |
Gardd | £40 | £80 |
Ystafell Ddigwyddiadau | £50 | £100 |
Os hoffech drafod ynghylch defnyddio unrhyw un o’n gofodau, e-bostiwch facilities@hahav.org.uk neu ffoniwch 01970 611 550.


