Helo, fi yw Amelia Quinlan, y cydlynydd gwirfoddolwr yma yn HAHAV ac rwy’n hapus i siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni ym mha ffordd bynnag.
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn elusen HAHAV. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o bob math, grŵp oedran a chefndir. Rydym yn croesawu siaradwyr Cymraeg a Saesneg, ac mae amrywiaeth eang o rolau i’w cyflawni o fewn HAHAV.

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer Haf 2021
- Mae arnom angen rhagor o ddynion i wirfoddoli ar gyfer ein gwasanaeth Cwmnïaeth a Chymorth.
- Mae arnom angen gwirfoddolwyr a fyddai’n hoffi ein helpu gyda’r gweithgareddau newydd ym Mhlas Antaron – mae angen ystod eang o gefnogaeth.
- Cefnogaeth mewn Profedigaeth – os ydych wedi’ch hyfforddi i roi cefnogaeth mewn profedigaeth, cofiwch gysylltu â ni.
- Byddem yn hoffi hyfforddi rhai gwirfoddolwyr i sicrhau bod ein gwefan newydd a’n sianel YouTube yn cynnwys y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf.
Rolau eraill y gallwch gynnig eich help
- Eisteddwyr: gweithio’n uniongyrchol â chleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd yng nghartref y claf ei hun
- Therapyddion: cwnselwyr, therapyddion cyflenwol, arweinwyr grŵp byw’n iach
- Codwyr Arian: yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd i’r elusen a’i chefnogi’n ariannol
- Gwirfoddolwyr y Siop: yn helpu i redeg siop HAHAV yn 14 Heol y Wig Aberystwyth, a’n stôr eBay
- Cefnogwyr Gweinyddol a TG: cyflawni sawl rôl wahanol sy’n angenrheidiol i sicrhau gwasanaeth hyfyw – gan gynnwys cynhyrchu newyddion, storïau a fideos ar gyfer ein gwefan
- ‘Bydis’ Technegol: yn helpu ein cleientiaid i fanteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau ar-lein a sicrhau eu bod yn weithredol.
- Garddio a Chynnal a Chadw: ein helpu i gadw Plas Antaron a’n siop yn Heol y Wig mewn cyflwr da
Gallwch wneud cais ar-lein i wirfoddoli gyda HAHAV neu e-bostio Amerlia am fwy o wybodaeth ar: coordinator@hahav.org.uk
Bydd pob gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi gychwynnol, yn dibynnu ar y rôl maent wedi’i dewis. Byddant yn cael eu hyfforddi a’u datblygu, eu cefnogi a’u goruchwylio. Mae costau teithio ar gael.
Gwnewch gais nawr i wirfoddoli gyda HAHAV
Mae David a Sue, dau o’n gwirfoddolwyr ffantastig, yn egluro’r hyn mae’n ei olygu i wirfoddoli gyda HAHAV: