Yn ddiweddar, buom yn siarad â dau o’n gwirfoddolwyr rhagorol, Dai a Sue gan ofyn iddynt pa fath o waith roeddent yn ei wneud yn ein gwasanaeth Cwmnïaeth a Chymorth. Buom yn ffilmio’r fideos yng ngardd Plas Antaron dros ddau ddiwrnod gwahanol, felly roedd yr haul yn gwenu ar Dai, ond nid felly ar Sue yn anffodus! Maent yn nodi cymaint o foddhad y mae’r gwaith yn ei roi ddiynt a chymaint yw gwerthfawrogiad y cleientiaid o’r gwasanaeth; hefyd y rhwystredigaethau a’u hwynebodd wrth weithio yn ystod cyfyngiadau COVID-19. Dyma nhw yma: