Bydd HAHAV yn cynnig cyfres reolaidd o sesiynau Zoom galw heibio. Gall salwch fod yn unig ac ynysig, ond does dim rhaid iddo fod felly. Chwiliwch y Calendr Digwyddiadau a rhowch wybod os hoffech ymuno ag unrhyw sesiwn. Bydd ein hwyluswyr gwadd yn trafod ystod o bynciau, o reoli poen, cyngor ar iechyd a budd-daliadau i drafodaethau ar ysbrydolrwydd a gofal ymarferol. Yn y sesiynau hyn cewch gyfle i ofyn cwestiynau a dysgu am wasanaethau lleol. Rydym hefyd yn croesawu eich syniadau am bynciau eraill i’r sesiynau hyn.

Os yw technoleg yn peri trafferth i chi, efallai y gallwn eich helpu gyda chyfarpar neu drefnu ‘bydi’ technegol i’ch cyflwyno i Zoom.
Cofiwch gofrestru ac archebu lle yn gynnar. Am fwy o wybodaeth neu os oes gennych syniadau am weithgareddau yr hoffech eu gweld yn y dyfodol, cysylltwch â Susie ar 01970 611 550 neu e-bostiwch events@hahav.org.uk.