Bydd HAHAV yn cynnal cyfres o weithgareddau Zoom a gweithdai cyfeillgar. Dyma gyfle i ddysgu sgiliau newydd neu ddarganfod eich talentau cudd! Mae pob sesiwn, sy’n para tua 1 awr fel arfer, yn rhad ac am ddim ac ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion gyda salwch cyfyngus neu nad oes gwella arno, i’w teuluoedd a’u gofalwyr. Chwiliwch ein Calendr Digwyddiadau i weld mwy.

Cofiwch gofrestru ac archebu lle yn gynnar. Am fwy o wybodaeth neu, os am rannu eich syniadau am weithgareddau yr hoffech eu gweld yn y dyfodol, ffoniwch Susie, ar 01970 611 550 neu e-bostiwch events@hahav.org.uk.